Y broses heneiddio a'i dylanwad ar ddiogelwch a pherfformiad Wylfa

Last edited 14 March 2001 at 9:00am
Publication date: 
14 March, 2001

Crynodeb (welsh summary)

Mae'r Adolygiad hwn yn ystyried sut y gellid disgwyl i'r broses heneiddio effeithio ar berfformiad a diogelwch yr orsaf ynni niwclear yn Wylfa.

Yn achos Wylfa, mae'r broses heneiddio yn cyfeirio at nifer fawr o ddeunyddiau a rhannau o'r adweithyddion. Mae rhai o'r prosesau heneiddio hyn yn rhai cymharol syml ac yn rhai yr ydym yn eu deall yn weddol dda; mae eraill yn fwy cymhleth sydd heb eu deall yn llwyr eto. Gyda threigl amser, daw yn fwy a mwy anodd, os nad yn fwy annibynadwy i geisio rhagweld pa broblemau sy'n deillio o heneiddio sy'n debygol o godi yn awr ac yn y dyfodol. Yn wir, wrth i oes yr adweithyddion ymestyn dros yr 20 neu 25 mlynedd a fwriadwyd ar eu cyfer yn wreiddiol, mae'n rhaid dibynnu fwyfwy ar archwilio deunyddiau a rhannau'r adweithyddion a dim ond trwy wneud hyn y gellir canfod beth yn union yw effeithiau'r broses heneiddio. Y broblem yma yw nad yw'r adweithyddion yn Wylfa yn cynnwys nodweddion sy'n ein galluogi i archwilio'r holl rannau hynny sy'n debygol o gael eu heffeithio wrth iddynt heneiddio.

Download the report:

Follow Greenpeace UK